Ffilmiau
-
Dros gan mlynedd ers marwolaeth a champ Eisteddfodol y Prifardd Hedd Wyn, dyma gyfle i blant Cymru glywed ei stori drist ond ysbrydoledig.
-
Wedi’i eni yng Nghasnewydd Bach, yn Sir Benfro, nid dewis Barti Ddu oedd bod yn fôr-leidr. Eto’i gyd fe ddatblygodd yn arweinydd eofn a ysbeiliodd dros 400 o longau gan arwsydo morwyr y Caribî.
-
Roedd Yr Esgob William Morgan, pan fu farw yn 1604, yn ddyn tlawd gan adael yn ei ewyllys ychydig o lestri piwter, pum pot blodyn, dau baun a dau alarch. Er hyn, yn ystod ei oes, creodd un o drysorau mwya’ gwerthfawr y genedl - Y Beibl Cymraeg.
-
Pam fydde unrhyw un am gerdded 26 milltir heb esgidiau? Dyma gyfle i gwrdd â’r ferch 16 oed, Mari Jones. Merch ysgol, tlawd oedd hi, â’i bryd ar rywbeth pwysig – un o’r llyfrau cyntaf oedd ar gael yn y Gymraeg – Y Beibl. Weithiau mae merch fach yn medru gwneud pethau mawr.
-
Cafodd David Davies ei eni ym mhentref bach Llandinam ym Mhowys, i deulu digon cyffredin a thlawd, ond bu farw yn ŵr cyfoethog iawn. Dyma gyfle i gyfarfod ag un o gewri cyfnod y Chwyldro Diwydiannol ac un o'r 'entrepreneurs' mwyaf welodd Cymru erioed.
-
Ar ôl blynyddoedd o fyw dan ormes Arglwyddi’r Mers a brenhiniaeth Lloegr, dyma un Cymro dewr yn penderfynu taw digon oedd digon.
-
Dyma'r Cymro cyntaf i adeiladu castell o gerrig, ac yno, yn 1176, cynhaliodd yr Eisteddfod gyntaf erioed.
-
Llywelyn ap Gruffudd, Ŵyr Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, Arglwydd Eryri, Tywysog Cymru Bur, Llywelyn eich Llyw Olaf a gafodd ei dwyllo a’i lofruddio ar yr 11eg o Ragfyr, yn yr oerfel ar Bont Orewin ger Llanfair ym Muallt yn y flwyddyn 1282.
-
Gyda help lot fawr o filwyr Cymreig ym mrwydr Maes Bosworth, fe wnaeth Harri drechu Richard lll a dod yn Frenin Lloegr, gan gychwyn cyfnod pwysig iawn mewn hanes – Y Tuduriaid.
-
Dewch ar daith yn ôl i Merthyr Tudful yn Oes Fictoria yng nghwmni Dic Penderyn, a dysgu sut oedd bywyd i’r bobl gyffredin yn ystod cyfnod o galedi a gorthrwm y meistri pwerus. Mae protest ar droed ac mae Dic Penderyn, ynghyd â channoedd o’i gydweithwyr, yn codi llais er mwyn mynnu newid y drefn.
-
Gwraig. Mam. Brenhines. Gwarchodwraig ei phobol Neu...Dynes wallgof a rhyfelgar gyda blas am waed Rhufeinig? ’r Rhufeiniaid wedi goresgyn y rhan fwyaf o Gymru a Lloegr, mynnodd Buddug frwydro dros ei hawliau a rhyddid ei phobol.
-
Dros 75 mlynedd yn ôl, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymosododd y Luftwaffe ar ddinas Abertawe, am dair noson yn olynol - ymosodiadau enwog y “Three Nights’ Blitz”: digwyddiad unigryw yn hanes Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
-
Yn y sioe mae Thomas Telford yn dychwelyd i Gymru unwaith eto gan ei fod wedi clywed fod ei gampwaith - Dyfrbont Pontcysyllte - wedi ennill statws Safle Treftadaeth y Byd.
-
Darganfyddwch hanes yr iaith Gymraeg yng nghwmni M R. Ben Igwr.