Children's Festival of Welsh History 2016

Lleoliadau

Compass

Castell Aberteifi

Castell Aberteifi

Mae Castell Aberteifi yn sefyll mewn lleoliad strategol gwbl naturiol, y man isaf i groesi’r Afon Teifi gyda golygfeydd arbennig tua’r mor a'r tir. Credwyd bod yr Arglwydd Rhys wedi dechrau ail-adeiladu y Castell o garreg ym 1171, y Cymro cynta i adeiladu Castell o garreg. Yn 1176 i nodi'r achlysur o gwblhau adeiladu’r Castell cynhaliodd yr Arglwydd Rhys yr Eisteddfod gyntaf erioed, dathliad yn llawn cystadlaethau rhwng beirdd a thelynorion.

Ganrifoedd wedi cynnal yr Eisteddfod gyntaf yn y castell, fe wnaeth Harri Tudur, yn ei ymgais i godi byddin i ymladd yn erbyn Richard lll ym maes Bosworth, alw heibio Castell Aberteifi i ofyn am gefnogaeth.

Erbyn heddiw, yn dilyn prosiect adfer sylweddol, mae Castell Aberteifi yn agored i’r cyhoedd, ac mae’n gartref i arddangosfa ar hanes yr Eisteddfod, ynghyd â rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol trwy gydol y flwyddyn.

Castell Llansteffan

Llansteffan Castle

Saif Castell Llansteffan ar benrhyn yn edrych dros draethell dywod aber yr afon Tywi. Roedd y castell yn rheoli croesfan bwysig yn yr afon a newidiodd ddwylo sawl gwaith yn ystod y brwydro ffyrnig rhwng y Normaniaid a'r Cymry.

Amgueddfa Wlân Cymru

Yn y gorffennol, y diwydiant gwlân oedd diwydiant pwysicaf a mwyaf cyffredin Cymru. Ar droad y 19eg ganrif, roedd pentref Dre-fach Felindre ynghanol harddwch Dyffryn Teifi yn ganolfan lewyrchus i’r diwydiant gwlân ac yn cael ei alw’n ‘Huddersfield Cymru’. Daeth oes au y melinau yn ystod y ddau ryfel byd, gyda’r holl alw am ddefnydd i filiynau o filwyr. Er hynny, dirywiodd pethau’n gyflym iawn yn sgil cwymp prisiau gwlân ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a dechreuodd y melinau gau.

Mae Amgueddfa Cymru wedi ei leoli yn hen ffatri wlân Cambrian Mills ac mae ganddi stori gyfareddol i’w hadrodd. Yno, gwnaed crysau a siolau, blancedi a charthenni, a sanau gwlân i ddynion a merched, a’u gwerthu i’r ardaloedd cyfagos - ac i bedwar ban byd.

Mae arddangosiadau’r Amgueddfa yn adrodd stori’r diwydiant gwlân drwy beiriannau sy’n gweithio, deunyddiau archif, arddangosiadau ymarferol a chyffrous ac oriel decstilau.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

San Ffagan

Fe gyrhaeddodd prosiect datblygu Sain Ffagan garreg filltir cyffrous yr haf hwn gydag agoriad yr adeilad sy’n rhoi mynediad i ymwelwyr, a’r gofod addysgu. Bydd perfformiad ‘Mewn Cymeriad’ yn digwydd yn y ddarlithfa newydd sbon o fewn Canolfan Ddysgu Weston.

Amgueddfa Dinbych y Pysgod

Amgueddfa Dinbych y Pysgod

Amgueddfa ag Oriel Dinbych y Pysgod yw’r amgueddfa annibynnol hynaf yng Nghymru, wedi’i sefydlu yn 1878.

Castell Cydweli

Castell Cydweli

Roedd Yr Arglwydd Rhys yn bedair mlwydd oed pan bu farw ei fam, Gwenllian.Yn 1136, bu brwydr fawr yn y caeau ger Castell Cydweli, rhwng byddin Maurice de Londres a’r lluoedd Cymreig dan arweiniad Gwenllian a’i meibion Morgan a Maelgwyn. Gorchfygwyd Gwenllian, ac fe’I lladdwyd ynghyd â Morgan ei mab.

Yn 1159, pan oedd Yr Arglwydd Rhys yn 27, fe gipiodd gestyll Normanaidd ar draws De Orllewin Cymru, a’I llosgi’n ulw. Mae’n debygol iawn fod Castell Cydweli yn eu plith. Gwyddwn fod Rhys wedi ail adeiladu sawl castell,.gan gynnwys Castell Aberteifi , ac efallai Castell Dinefwr. Yn 1190, mae’n nodi yn y croniclau Cymreig ei fod wedi adeiladu’r castell yng Nghydweli. Mae’n bosib taw trwsio’r castell pren wnaeth Rhys, neu efallai ei fod wedi dechrau ei ail adeiladu o garreg.

Bu farw’r Arglwydd Rhys yn 1197, ac aeth Castell Cydweli yn ôl i ddwylo’r Normaniaid. Bu sawl perchennog newydd yn ben ar y Castell, gan wneud newidiadau a gwelliannau ar hyd y ffordd.

Amgueddfa Arberth

Amgueddfa Arberth

Mae Amgueddfa Arberth yn ganolfan gelfyddydol a threftadaeth, sy’n gwneud defnydd o’I gasgliad a’r gofod er lles y gymuned. Maent yn gweld eu hunain fel gwarchodwyr y gorffennol sy’n meithrin y dyfodol trwy gyfrwng rhaglen amrywiol o weithdai, digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer pob oed. Mae’r amgueddfa yn cynnig profiad rhyngweithiol ac mae’n dathlu diwylliant lleol mewn ffyrdd arloesol.

Tŷ Tredegar

Ty Tredegar

Mae Tŷ Tredegar yn un o ryfeddodau pensaerniol Cymru, ac un o’r tai mwyaf nodweddiadol, o gyfnod diwedd y 17eg ganrif, trwy Brydain gyfan. Am 500 mlynedd a mwy, bu’r tŷ yn gartref I un o deuluoedd pwysicaf Cymru, y Morgans, ac ar ol hynny i’r Arglwyddi Tredegar.

Wedi’i leoli o fewn 90 acer o erddi godidog a pharcdir, mae’r tŷ hardd hwn o frics coch yn leoliad poblogaidd gydag ymwelwyr.

Castell Carreg Cennen, Trap, Llandeilo

Carreg Castle

Er taw rhai o Dywysogion y Deheubarth adeiladodd y castell gwreiddol yng Ngharreg Cennen, mae’r hyn sydd I’w weld heddiw yn dyddio i gyfnod Edward 1af.

Mae’r castell wedi’I hadeiladu ar graig serth, ac mae’r golygfeydd gyda’r godidocaf o holl gestyll Cymru.

Oriel y Parc, St Davids

Oriel y Parc

Mae Oriel y Parc yn adeilad anhygoel ac arloesol sydd wedi ei chuddio yn y tirlun. Dan gochi ei cheinder y mae’r dechnoleg wyrdd ddiweddaraf yn gweithio’n galed i ddarparu amgylchedd cyfforddus a chynaladwy.

Llanymddyfri

Llanymddyfri

Adeiladodd y Normaniaid gastell yn Llanymddyfri er mwyn rheoli’r ardal. Cafodd y castell ei gipio nol gan y Cymry, dan araweiniaid Rhys ap Gruffydd, yn fuan wedyn. Newidiodd y castell ddwylo nifer o weithiau, wrth I’r Cymry a’r Normaniaid frwydro i ennill rheolaeth dros rhan uchaf Dyffryn Tywi.

Yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr (1400 – 1416), arweiniodd Harri lV o Loegr fyddin enfawr drwy Llanymddyfri I chwilio am Glyndwr. Cafodd Llywelyn ap Gruffydd o Gaeo, un o gefnogwyr Glyndwr, ei grogi, ei ddiberfeddu a’i chwarteru o flaen y Brenin oherwydd iddo wrthod bradychu’r Tywysog a’r achos dros ryddid Cymru.

Castell Newydd Emlyn

Castell Castell Newydd Emlyn

Fe greodd Maredudd ap Rhys Gryg adeiladwaith pren, pridd a ffos. Yn fuan wedyn fe gafodd ei addasu i garreg.

Yn ystod ei wrthryfel, fe gipiodd Owain Glyndŵr y castell o dan faner y Ddraig Goch, cyn cael ei gipio yn ol , yn fuan wedyn, gan fyddin Lloegr.

Canolfan Pentre Ifan, Nevern

Canolfan Pentre Ifan, Nevern

Agorwyd Canolfan Pentre Ifan ym 1992 fel canolfan addysgol gyda’r pwyslais ar addysg yr amgylchedd. Defnyddir y ganolfan hefyd ar gyfer cyrsiau, phriodasau a gan grwpiau ieuenctid. Hen borthdy Tuduraidd yw’r adeilad, yn dyddio yn wreiddiol o 1485. Mae’r Ganolfan wedi’i hamgylchynu gan dir amaethyddol a choedwigoedd naturiol a cheir awyrgylch heddychlon a chartrefol.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn amgueddfa sy’n adrodd hanes diwydiannol a morwrol Cymru, mewn adeilad braf ger y Marina yn Abertawe. Mae hefyd elfen gref o hanes cymdeithasol wedi ei weu drwy’r arddangosfeydd.

Castell Caerfyrddin

Castell Caerfyrddin

Mae Castell Caerfyrddin yn un o gestyll pwysicaf Cymru. Cafodd ei adeiladu oddeutu 1106 gan Henry 1af o Loegr. Cafodd ei adeiladu ger safle caer Rhufeinig Caerfyrddin.

Roedd y castell yn wreiddiol yn Tomen a Beili ond fe'i hailadeiladwyd yn garreg tua 1230. Roedd waliau y castell yn cwmpasu rhannau o Gaerfyrddin yn ganiatáu i dref ganoloesol ffyniannus i ddatblygu.

Mae gan y castell hanes diddorol a threisgar gyda llawer o frwydrau dros reolaeth y castell, gydag un o'r digwyddiadau mwyaf enwog yn y 1400au cynnar pan gymerwyd y gastell dro ar ôl tro gan Owain Glyndwr yn ystod ei wrthryfel, nes i'w ennil ynol gan Henry VI ei hun.

Chwaraeodd y castell rôl yn y Rhyfel Cartref rhwng 1642-1645 pan gafodd ei ddal gan bob ochr cyn ei ddinistrio yn 1660, pan roedd y castell wedi ei ddefnyddio fel rhan o charchar y Sir ar ddiwedd y 1600au, 1700au a'r 1800au.

Yr Ysgwrn

Yr Ysgwrn

Fferm fynydd draddodiadol a saif ar lethrau deheuol Cwm Prysor yw’r Ysgwrn. Bellach, mae’n safle o bwysigrwydd rhyngwladol ac mae’n adnabyddus fel catref y bardd, Hedd Wyn. Lladdwyd Hedd Wyn yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi’i farwolaeth, cafodd ei wobrwyo â Chadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw am ei awdl, Yr Arwr. Gall ymwelwyr â’r Ysgwrn weld y Gadair, a elwid Y Gadair Ddu, yn yr Ysgwrn, sydd bellach dan reolaeth Parc Cenedlaethol Eryri.

Neuadd Carrog, Corwen

Neuadd Carrog, Corwen

Cafodd yr adeilad ei adeiladu ar gyfer gwaith ynad llys, ond daeth y cyfnod hynny yn ei hanes i ben yn y nawdegau. Bellach mae'n ganolfan gymunedol a cynhelir amryw o weithgareddau yno gan wahanol grwpiau gan gynnwys Cylch Ti a Fi, Clwb Ieuenctid, Clwb yr Henoed yn ogystal a chyrsiau o bob math yn cynnwys cwrs dysgu Cymraeg.

Canolfan Owain Glyndwr

Senedd-dy Machynlleth

Saif Canolfan Owain Glyndŵr ar safle’r senedd enwog a gynhaliwyd yn 1404 lle y cafodd Owain ei goroni’n Dywysog Cymru. Rhoddwyd yr adeilad rhestredig gradd 1 hwn i dref Machynlleth gan yr Arglwydd Davies o Landinam ym mis Chwefror 1912.

Mae’r Ganolfan yn cynnwys arddangosfa newydd ryngweithiol sy’n llawn gwybodaeth ar fywyd, amseroedd a gweledigaeth Owain Glyndŵr – yr arweinydd gwrthryfelgar a’r arwr cenedlaethol a gyhoeddodd ei hun yn Dywysog Cymru ar ddechrau’r bymthegfed ganrif.

Scolton Manor, Haverfordwest

Scolton Manor

Manordy Fictorianaidd yw Scolton Manor, wedi'i osod o fewn parc a choetir 60 erw. Cafodd ei adeiladu yn 1842 i'r teulu Higgon, ac mae'r ty yn agored i'r cyhoedd gael cipolwg ar fywyd Fictorianaidd - y meistri a'r gweision.

Penbedw

Penbedw

Yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, 1917, dychwelwyd y Gadair Ddu i gartref y Bardd buddugol, Hedd Wyn, yn Yr Ysgwrn. Bu farw Hedd Wyn chwech wythnos cyn seremoni’r Cadeirio, ym mrwydr Passchendaele, ac felly roedd y siwrne dren, a garia’r Gadair Ddu, yn un sobor a thrist. Mae’n debyg fod cannoedd o blant ysgol ar hyd y daith weld dod allan i gael cipolwg y Gadair wrth i’r tren alw heibio trefi a phentrei ar hyd y daith i Drawsfynydd.

Castell Rhaglan

Castell Rhaglan

Gan fod Harri Tudur yn fygythiad i’r frenhiniaeth, yn 1462, penderfynodd y brenin Edward lV ei osod dan ofalaeth un o deulu’r Efrogiaid, William Herbert, perchennog Castell Rhaglan, a’i wraig. Roedd mam Harri yn 13 ar y pryd, a bu ei dad farw o’r pla cyn i Harri gael ei eni. Roedd Harri yn 5 mlwydd oed ar y pryd, ac arhosodd yng Nghastell Rhaglan am bron i ddeng mlynedd.

Tra yn Rhaglan, cafodd Harri ei diwtora gan ddau glerigwr, Edward Haseley ac Andrew Scot, ac o bosib ei hyfforddi sut i fod yn wr bonheddig gan Syr Hugh Johnys. Dysgodd saethyddiaeth, ac mae’n bosib iawn iddo ddysgu’r Gymraeg, gan fod teulu’r Herberts a’i gweision i gyd yn siarad Cymraeg.

Roedd William Herbert wedi gobeithio y byddai Harri Tudur yn priodi ei ferch hynaf, Maud, ond bu farw cyn gallu cwblhau’r trefniadau. Fe wnaeth Harri ddianc o’r castell, yn ôl i Gastell Penfro, pan oedd yn 14 mlwydd oed.

Neuadd Pontgarreg

Neuadd Pontgarreg

Roedd y neuadd gwreiddiol a adeiladwyd yn 1952. Yn 2000 y neuadd ei hadnewyddu ac adeiladu cegin newydd, toiled i'r anabl, toiledau, ystafell newid a chawodydd cwblhawyd gyda grant gan y Loteri Genedlaethol Bwrdd Elusennau'r.

Capel Mynydd Seion Casnewydd

Capel Mynydd Seion Casnewydd

Capel Cymraeg yw Mynydd Seion yng nghanol dinas Casnewydd. Mae'r capel ar Hill Street, un o'r rhiwiau serth sy'n arwain o Commercial Street i gyfeiriad Stow Hill ac at Eglwys Gadeiriol Gwynllyw.

Sefydlwyd yr achos yn 1835 a bu'r capel yn gartref ysbrydol i gannoedd o deuluoedd dros y blynyddoedd.

Er yn perthyn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg y mae pobl o wahanol draddodiadau enwadol wedi addoli ym Mynydd Seion dros y blynyddoedd ac yn parhau i wneud.

Y mae dau beth yn clymu cyfeillion Mynydd Seion Casnewydd at ei gilydd: eu ffydd Gristnogol a'r awydd i addoli Duw drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae’r capel wedi bod yn cynnal oedfaon a gweithgareddau cymunedol yn y Gymraeg yng Nghasnewydd ers dros 180 o flynyddoedd!

Archif

2016 lleoliadau
2015 lleoliadau