Children's Festival of Welsh History 2016

Lleoliadau 2015

Compass

Castell Aberteifi

Castell Aberteifi

Mae Castell Aberteifi yn sefyll mewn lleoliad strategol gwbl naturiol, y man isaf i groesi’r Afon Teifi gyda golygfeydd arbennig tua’r mor a'r tir. Credwyd bod yr Arglwydd Rhys wedi dechrau ail-adeiladu y Castell o garreg ym 1171, y Cymro cynta i adeiladu Castell o garreg. Yn 1176 i nodi'r achlysur o gwblhau adeiladu’r Castell cynhaliodd yr Arglwydd Rhys yr Eisteddfod gyntaf erioed, dathliad yn llawn cystadlaethau rhwng beirdd a thelynorion.

Ganrifoedd wedi cynnal yr Eisteddfod gyntaf yn y castell, fe wnaeth Harri Tudur, yn ei ymgais i godi byddin i ymladd yn erbyn Richard lll ym maes Bosworth, alw heibio Castell Aberteifi i ofyn am gefnogaeth.

Erbyn heddiw, yn dilyn prosiect adfer sylweddol, mae Castell Aberteifi yn agored i’r cyhoedd, ac mae’n gartref i arddangosfa ar hanes yr Eisteddfod, ynghyd â rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol trwy gydol y flwyddyn.

Tŷ Newton

Tŷ Newton

Roedd yr Arglwydd Rhys yn rheoli’r Deheubarth o 1155, o’i brif gartref yng Nghastell Dinefwr.

Yn 1298, datblygwyd tref newydd (‘New Towne) nepell o’r castell ar dir a roddwyd i’r dynion hynny a fu’n deyrngar i Edward 1. Roedd y brenin yn poeni am aflonyddwch yn y rhan yma o Gymru, a trwy ffurfio tref newydd, gyda hawliau masnachu newydd, y byddai’n llwyddo i dawelu’r dyfroedd.

Cafodd y Tŷ Newton presennol ei adeiladu yn 1660 ar ôl blynyddoedd o ennil a cholli tiroedd gan deulu’r Rice’ Dinefwr. Dyma oedd cartref Arglwydd Dinefwr tan 1970au.

Castell Cydweli

Castell Cydweli

Roedd Yr Arglwydd Rhys yn bedair mlwydd oed pan bu farw ei fam, Gwenllian.Yn 1136, bu brwydr fawr yn y caeau ger Castell Cydweli, rhwng byddin Maurice de Londres a’r lluoedd Cymreig dan arweiniad Gwenllian a’i meibion Morgan a Maelgwyn. Gorchfygwyd Gwenllian, ac fe’I lladdwyd ynghyd â Morgan ei mab.

Yn 1159, pan oedd Yr Arglwydd Rhys yn 27, fe gipiodd gestyll Normanaidd ar draws De Orllewin Cymru, a’I llosgi’n ulw. Mae’n debygol iawn fod Castell Cydweli yn eu plith. Gwyddwn fod Rhys wedi ail adeiladu sawl castell,.gan gynnwys Castell Aberteifi , ac efallai Castell Dinefwr. Yn 1190, mae’n nodi yn y croniclau Cymreig ei fod wedi adeiladu’r castell yng Nghydweli. Mae’n bosib taw trwsio’r castell pren wnaeth Rhys, neu efallai ei fod wedi dechrau ei ail adeiladu o garreg.

Bu farw’r Arglwydd Rhys yn 1197, ac aeth Castell Cydweli yn ôl i ddwylo’r Normaniaid. Bu sawl perchennog newydd yn ben ar y Castell, gan wneud newidiadau a gwelliannau ar hyd y ffordd.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw llyfrgell fwyaf Cymru ac mae'n gwasanaethu fel cof cenedl. Fel llyfrgell adnau cyfreithiol mae ganddi hawl i dderbyn copi am ddim o bopeth sy'n cael ei gyhoeddi ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae'n casglu rhyw 4,000 o gyhoeddiadau newydd bob wythnos i ychwanegu at gasgliad y Llyfrgell o:

  • - 6 miliwn o lyfrau a phapurau newydd
  • - 950,000 ffotograff
  • - 60,000 o weithiau celf
  • - 1.5 miliwn map
  • - 7 miliwn troedfedd o ffilm
  • - 40,000 llawysgrif
  • - 250,000 awr o fideo
  • - 1,900 metr ciwbig o archifau

Canolfan Owain Glyndwr

Senedd-dy Machynlleth

Saif Canolfan Owain Glyndŵr ar safle’r senedd enwog a gynhaliwyd yn 1404 lle y cafodd Owain ei goroni’n Dywysog Cymru. Rhoddwyd yr adeilad rhestredig gradd 1 hwn i dref Machynlleth gan yr Arglwydd Davies o Landinam ym mis Chwefror 1912.

Mae’r Ganolfan yn cynnwys arddangosfa newydd ryngweithiol sy’n llawn gwybodaeth ar fywyd, amseroedd a gweledigaeth Owain Glyndŵr – yr arweinydd gwrthryfelgar a’r arwr cenedlaethol a gyhoeddodd ei hun yn Dywysog Cymru ar ddechrau’r bymthegfed ganrif.

Tŷ Mawr Wybrnant

Tŷ Mawr Wybrnant

Cafodd William Morgan ei eni yn 1545 yn Tŷ Mawr, Wybrnant. Roedd e'n un o bump o blant, ac roedd ei rieni yn denantiaid i Syr John Wynn, Gwydir, ger Llanrwst. Roedd y ffordd ger Wybrnant, yn un o brif ffyrdd y porthmyn yng nghyfnod William Morgan, a byddai’r teulu yn aml yn croesawu’r porthmyn, a’r beirdd crwydrol, i’w cartref.

Roedd yn draddodiad gan y teulu Wynn i dderbyn y plant mwyaf galluog o blith eu tenantiaid, a’i haddysgu ym mhlas Gwydir gan diwtor y teulu, Felly, derbyniodd William Morgan ei addysg gynnar dan nawdd teulu Gwydir, ynghyd â chan y beirdd fyddai’n galw heibio Tŷ Mawr, cyn mynd, yn fachgen ugain mlwydd oed, i Goleg Sant Ioan yng Nghaergrawnt.

Er i William Morgan wasanaethu mewn sawl ardal yng Nghymru, fe gysylltwn ef yn bennaf ag Eglwys Llanrhaeadr ym Mochnant, gan iddo aros yno o 1578 - 1595, a dyna lle gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg.

Cyhoeddwyd y Beibl Cymraeg cyntaf yn 1588.

Byd Mary Jones

Byd Mary Jones

Mae Byd Mary Jones yn ganolfan ymwelwyr ac addysg newydd o’r radd flaenaf sy’n adrodd stori Mary Jones a Thomas Charles, ac effaith y llyfr, sy’n gwerthu orau yn y byd, ar Gymru ac ar y byd.

Yn 1800, cerddodd Mary Jones, yn 15 oed, 26 milltir o Lanfihangel-y-Pennat i’r Bala i brynu Beibl. Beibl William Morgan oedd y fersiwn oedd Mary Jones eisiau a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804.

Mae hanes William Morgan hefyd yn cael ei adrodd ym Myd Mary Jones fel rhan o hanes Beiblau Cymraeg.

Castell Rhaglan

Castell Rhaglan

Gan fod Harri Tudur yn fygythiad i’r frenhiniaeth, yn 1462, penderfynodd y brenin Edward lV ei osod dan ofalaeth un o deulu’r Efrogiaid, William Herbert, perchennog Castell Rhaglan, a’i wraig. Roedd mam Harri yn 13 ar y pryd, a bu ei dad farw o’r pla cyn i Harri gael ei eni. Roedd Harri yn 5 mlwydd oed ar y pryd, ac arhosodd yng Nghastell Rhaglan am bron i ddeng mlynedd.

Tra yn Rhaglan, cafodd Harri ei diwtora gan ddau glerigwr, Edward Haseley ac Andrew Scot, ac o bosib ei hyfforddi sut i fod yn wr bonheddig gan Syr Hugh Johnys. Dysgodd saethyddiaeth, ac mae’n bosib iawn iddo ddysgu’r Gymraeg, gan fod teulu’r Herberts a’i gweision i gyd yn siarad Cymraeg.

Roedd William Herbert wedi gobeithio y byddai Harri Tudur yn priodi ei ferch hynaf, Maud, ond bu farw cyn gallu cwblhau’r trefniadau. Fe wnaeth Harri ddianc o’r castell, yn ôl i Gastell Penfro, pan oedd yn 14 mlwydd oed.

Castell Rhuddlan

Castell Rhuddlan

Adeiladodd Edward 1 y castell rhwng 1277 a 1282, am gost o bron i £10,000. Cynlluniwyd y castell i fod yn gaer ysblennydd, a allai dderbyn nwyddau o’r môr. Er mwyn gwneud hyn yn bosib, mae’n debyg fod rhwng 1800 - 2000 o ddynion wedi bod yn gweithio ar y ddwy filltir o afon ger y castell , yn ei sythu a’i ddyfnhau trwy balu ffosydd. Yn ogystal â muriau crand y castell, a gallwn weld hyd heddiw, roedd yna fur anferth, gyda thŵr sgwâr ar bob pen, yn amddiffyn y castell rhag ymosodiadau o gyfeiriad yr afon.

Yn 1284, arwyddwyd Statud Rhuddlan yma, gan greu siroedd Fflint, Caernarfon, Môn , Meirionedd, Ceredigion a Chaerfyrddin, gan sefydlu system o lywodraeth wnaeth barhau am 250 o flynyddoedd.

Dechreuodd gwrthryfel Glyndŵr yn 1400, ac er i’w filwyr reibio tref Rhuddlan gan ymosod ar y castell, ni lwyddodd i gymryd y castell pwerus hwn.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

San Ffagan

Fe gyrhaeddodd prosiect datblygu Sain Ffagan garreg filltir cyffrous yr haf hwn gydag agoriad yr adeilad sy’n rhoi mynediad i ymwelwyr, a’r gofod addysgu. Bydd perfformiad ‘Mewn Cymeriad’ yn digwydd yn y ddarlithfa newydd sbon o fewn Canolfan Ddysgu Weston.

Castell Fflint

Castell Fflint

Taith Glera Bardd Plant Cymru

Eleni, mi fydd ’na un gleren fach yn crwydro o gastell i gastell! Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn , mewn sesiynau llawn hwyl, fydd yn rhoi cyfle i’r plant greu straeon doniol ar fudr ac odl, a hynny mewn rhai o gestyll mwya’ urddasol Cymru!

Y Glêr

Enw torfol am ‘feirdd crwydrol’ yw ‘y glêr’, ac yn ddiweddarach daeth i olygu ‘cerddorion crwydol’ hefyd. Yn yr Oesoedd Canol roedd yr enw’n medru golygu dau beth – naill ai beirdd yn gyffredinol, neu’n benodol feirdd israddol! Yr ail ystyr ddaeth gyntaf, yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae Iolo Goch yn eu galw nhw’n ‘clêr y dom’ hyd yn oed! Ond pam?! Mae’n debyg fod yn rhaid i ni fynd yn ôl ym mhellach eto i ddeall hynny. Cyn concwest 1282 roedd beirdd yn sefydlog, hynny yw, yn amser Llywelyn Fawr roeddent yn medru aros mewn un llys i wneud eu gwaith, heb orfod crwydro. Ond erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg daeth nawdd y Tywysogion i ben. Roedd y rhan fwyaf o feirdd yn gorfod crwydro i wneud bywoliaeth. Ond roedd rhai o’r beirdd… fel Iolo Goch …yn hoffi meddwl eu bod yn well ’na hynny wir, ac mai peth israddol ac amharchus oedd crwydro i farddoni.

Doedd cerddi’r glêr ddim yn cael eu cofnodi’n gerddi swyddogol ac felly ychydig o dystiolaeth sydd o’r gwaith. Ond mae’n debygol mai cerddi ysgafn, yn adrodd hanesion a throeon trwstan oedden nhw.

Beirdd “proffesiynol” yn hytrach na’r glêr fyddai’n fwyaf tebygol o fod yn canu yn rhai o’r cestyll brodorol fel Castell y Bere, Dolbdarn a Dolwyddelan. Ond ar ôl y goncwest doedd dim croeso i feirdd, heb sôn am y glêr, yn y cestyll Edwardaidd, oedd wedi eu codi’n benodol i gadw’r Cymry allan. Ond erbyn diwedd yr Oesoedd Canol roedd mwy a mwy o Gymry yn cael swyddi pwysig o dan goron Lloegr, a datblygodd rhai o’r Cymry pwysig hynny eu cartrefi yn ganolfanau nawdd i’r beirdd. Y castell amlycaf yng ngwaith y beirdd yn y bymthegfed ganrif yw Castell Rhaglan.

Castell arall roddodd groeso i’r glêr oedd Castell Caeriw yn Sir Benfro. Yn ôl yr hanes, cafodd defod ‘y cyff clêr’ ei chynnal ar ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg dan nawdd Syr Rhys ap Tomas. Byddai’r beirdd yn ymgasglu gan ddewis un o’u plith i fod yn ‘gyff clêr’… mewn geiriau eraill ‘yn destun gwawd’! Roedd y cyff clêr yn fardd o fri fel rheol ac roedd cael y cyfle i’w ddychanu a thynnu coes yn fêl ar fysedd y gweddill. Straeon gwneud oedd rhan fwyaf o’r cynnwys, a straeon doniol fel arfer!*

Llyfrgell Caernarfon

Llyfrgell Caernarfon

Cafodd y cyfarfod cyntaf i drafod gwladychfa newydd ym Mhatagonia, lle fyddai’r iaith a’r diwylliant yn ffynnu, ei gynnal gan Gymdeithas Llenyddol Caernarfon, yng nghapel Engedi yn 1856. Un o aelodau blaenllaw y gymdeithas oedd yr argraffwr lleol, Lewis Jones, a aeth yn ei flaen i ddenu cefnogaeth i’r syniad. Bron i ddeg mlynedd yn ddiweddarach, hwyliodd y Mimosa i Batagonia, gyda’r Cymry cyntaf ar fwrdd y llong.

Llyfrgell Blaenau Ffestiniog

Llyfrgell Blaenau Ffestiniog

Cant a hanner o flynyddoedd yn ôl fe hwyliodd criw dewr o Gymry, ar fwrdd y Mimosa, i ochr draw’r byd er mwyn darganfod bywyd gwell. Ymhlith y teithwyr roedd yna 12 o bobl o ardal Ffestiniog.

Amgueddfa Dinbych y Pysgod

Amgueddfa Dinbych y Pysgod

Amgueddfa ag Oriel Dinbych y Pysgod yw’r amgueddfa annibynnol hynaf yng Nghymru, wedi’i sefydlu yn 1878.

Neuadd Carrog, Corwen

Neuadd Carrog, Corwen

Cafodd yr adeilad ei adeiladu ar gyfer gwaith ynad llys, ond daeth y cyfnod hynny yn ei hanes i ben yn y nawdegau. Bellach mae'n ganolfan gymunedol a cynhelir amryw o weithgareddau yno gan wahanol grwpiau gan gynnwys Cylch Ti a Fi, Clwb Ieuenctid, Clwb yr Henoed yn ogystal a chyrsiau o bob math yn cynnwys cwrs dysgu Cymraeg.