Children's Festival of Welsh History 2016

O Buddug i Owain Glyndwr: Actorion “Mewn Cymeriad” o gwmpas cymru ar gyfer tymor ysgol newydd sbon Medi 19, 2018

- Sioeauun dyn/ferch yn teithio ysgolion cynradd yn cefnogi rhai o brif amcanion addysg yng Nghymru
- Cyn bennaeth marchnata S4C yn gwneud gwersi hanes yn ‘hwyl ac yn gyffrous’ ar gyfer plant
- Dathlu 5 mlynedd o Mewn Cymeriad

Mae cwmni Cymreig, sy'n llwyfannu sioeau un dyn/ferch am hanes Cymru, ar gyfer y sector cynradd, yn gymorth i gefnogi amcanion allweddol sydd wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru. Mae'r busnes hefyd yn cyfrannu at ecomoni ddiwylliannol a chreadigol Cymru.

Pum mlynedd yn ôl i’r mis hwn, daeth criw o blant at ei gilydd ar gyfer gwers hanes wahanol iawn.

Y pwnc oedd Yr Arglwydd Rhys – Arwr y Deheubarth - rhyfelwr ac un o Dywysogion y Deheubarth o’r 12fed ganrif - gelyn y Normaniaid, a’r Cymro a adeiladodd y castell cyntaf Cymraeg o gerrig - Castell Aberteifi, lle cynhaliodd yr Eisteddfod gyntaf yn 1176.

Beth oedd yn wahanol am y wers rhyngweithiol arbennig yma oedd taw’r Arglwydd Rhys ei hun oedd ‘yr athro’. Edrychai’n ysblennydd yn ei wisg canol oesol, gyda’i gleddyf a’i darian – digon i greu’r ymdeimlad o ryfeddod ymhlith plant 7 – 11 oed, Ysgol Bro Brynach yn Sir Gaerfyrddin, oedd yn barod i wrando’n eiddgar ar ei stori.

Wrth gwrs, nid yr Arglwydd Rhys go iawn oedd yno, ond actor yn portreadu’r cymeriad mewn drama un dyn rhyngweithiol.

Syniad Eleri Twynog Davies, cyn Bennaeth Marchnata a Digwyddiadau S4C, oedd creu drama un dyn, mewn cymeriad, a dyna oedd cychwyn y daith i gyflwyno hanes, i blant oed cynradd, gyda hwyl a chyffro.

“Er imi astudio Hanes i Lefel A, roedd gen i gywilydd sylweddoli, fel oedolyn, cyn lleied oedd fy ngwybodaeth am hanes Cymru” meddai Eleri, perchennog a Chyfarwyddwr ‘Mewn Cymeriad/In Character’. “ O ni am wneud rhywbeth i neud yn iawn am hynny gan sicrhau fod plant heddiw yn ymwybodol ac yn ymddiddori yn y cymeriadau diddorol hynny sy’n rhan o’n hanes ni, ac sydd wedi gadael eu marc yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”

Ar Fedi 21ain 2018, i nodi achlysur y 5 mlynedd, bydd cwmni ‘Mewn Cymeriad’ yn dychwelyd i Ysgol Bro Brynach gyda sioe gyffrous am Owain Glyndŵr – Ein Harwr Ni.

Dros y bum mlynedd ddiwethaf, mae’r cwmni wedi datblygu’n sylweddol, gan helpu i gyflwyno amcanion craidd y cwricwlwm newydd. Bellach, gyda portffolio o dros 20 o sioeau, mae’r cwmni yn cynnal tua 100 o berfformiadau yn fisol mewn ysgolion cynradd, ac ers cychwyn y cwmni ym mis Medi 2013, amcangyfrifir bod dros 100,000 o blant wedi gweld un neu fwy o’r sioeau.

Yn ogystal â’r Arglwydd Rhys, gall plant fwynhau dysgu am Buddug – Brenhines y Brwydro; Mari Jones – Yn ôl fy nhroed; Barti Ddu – Cnaf Cyfrwys y Caribî; Hedd Wyn – Pam ein bod ni’n cofio; Arglwyddes Llanofer – Pleidiol wyf i’m Gwlân; Harri Tudur – Arwr Cymru neu Fradwr?Y Ladis Copr – O Barys i Bedwar Ban Byda llawer mwy.

Ac mae ‘na sioeau sy’n cyfuno hanes gyda mathemateg – e.e Robert Recorde – Beth yw’r Broblem?, sioe datrys problemau yng nghwmni’r gwr o Ddinbych y Pysgod wnaeth gyflwyno’r symbol hafal (=) i’r byd.

Mae llenyddiaeth hefyd yn derbyn triniaeth Mewn Cymeriad. Comisiynwyd sioe am lyfrau Roald Dahlgan y Cyngor Llyfrau i ddathlu 100 mlwydiant geni’r awdur, gyda’r bwriad penodol o geisio ysbrydoli plant i ddarllen. Ac mae sioe Kate, comisiwn gan Fenter Iaith Dinbych, ar gyfer disgyblion TGAU a Lefel, ynghyd â chynulleidfaoedd cymunedol, yn seiliedig ar fywyd a gwaith Kate Roberts.

Mae’r sioeau i gyd wedi’u sgwennu, eu cyfarwyddo a’u cynllunio gan unigolion proffesiynol rhyddgyfrannol, cyn i’r actorion, gyda’u gwisgoedd a’u props, eu teithio i ysgolion neu atyniadau ar hyd a lled Cymru.

“Mae’r sioeau yn cynnig dehongliad unigryw a byw o’n hanes, ynghyd â’r cyfle i ryngweithio” esbonia Eleri. “ Mae’r cyfuniad o ffaith a chwarae, dychymyg a rhesymu yn hanfodol, a daw’r cyfan at ei gilydd mewn perfformiadau bywiog”.

“Mae’n dda gwybod hefyd bod ein sioeau yn gwbwl gydnaws â strategaeth newydd Llywodraeth Cymru”.

Yn 2015, comisiynwyd Cwricwlwm Newydd i Gymru yn dilyn Adroddiad Donaldson i ddyfodol addysg yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn pwysleisio ‘r elfen o ddysgu trwy brofiad, Experiential Learning,fel ffordd o danio diddordeb a chynyddu hyder ymhlith pobl ifanc.

Yn ychwanegol, mae Eleri Twynog hefyd yn gyfrifol am lwyfannu gŵyl flynyddol i blant – Gŵyl Hanes Cymru i Blant, nawr yn ei phedwaredd blwyddyn.

Meddai Eleri “Mae’r ŵyl yn fenter nid er elw, pan fyddwn yn llwyfannu sioeau a chyflwyniadau trwy gydol mis Medi mewn safleoedd treftadaeth dros Gymru gyfan. Y bwriad, ar y cyd â phartneriaid, yw estyn cyfleoedd unigryw i blant a’r cyhoedd ddysgu mwy am rai o gymeriadu difyr ein gorffennol, darganfod safleoedd o bwys hanesyddol, a dathlu hanes a threftadaeth cyfoethog Cymru”.

Mis yma, mae dros 60 o sioeau yn cael eu llwyfannu mewn safleoedd treftadaeth dros Gymru, gan gynnwys Castell Rhaglan; Tŷ Tretŵr; Amgueddfa’r Deyrnas Gopr; Amgueddfa Gwlân Cymru, Castell Aberteifi ac Amgueddfa Cymru Sain Ffagan.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Eleri Twynog Davies on 07891 383392 neu eleritwynog@btinternet.com