






NEWYDDION
LAWNSIO
Gŵyl 2026!

Croeso i Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2026
Bydd miloedd o blant unwaith eto eleni yn cael cyfleon di-ri i ddysgu am arwyr ac arwresau Cymru, mewn lleoliadau treftadaeth anhygoel …a’r cyfan am ddim!
Mae ein rhaglen eleni yn dathlu 300 mlwyddiant y naturiaethwr o Sir y Fflint, Thomas Pennant. Diolch i’n partneriaid, bydd disgyblion o ysgolion ar draws Cymru yn cael y cyfle i ddysgu am ei fywyd a’i waith.
Yn ogystal â digwyddiadau byw, mae’r rhaglen yn cynnwys gweithdai digidol, ffilmiau byrion; fideos cerddorol a sgyrsiau.
Cymerwch olwg ar y rhaglen, archebwch eich hoff sesiynnau, ac fe welwn ni chi ym mis Medi/Hydref.
Diolch yn fawr i’r holl bartneriaid sy’n cefnogi’r ŵyl eleni.

DEWCH I DDATHLU!
Dewch i gyd-ganu efo un o arwyr Cymru, Yr Arglwydd Rhys! Mae dros 20 fideo i'w gael ar ein sianel YouTube, felly ewch ati i danysgrifio a mwynhau gwledd o hanes.




AMDANOM
Bwriad yr ŵyl yw i greu brwdfrydedd, ymhlith plant yn bennaf, am hanes Cymru , gan estyn cyfleoedd unigryw i ddysgu mwy am gymeriadau a straeon difyr o’r gorffennol; darganfod safleoedd o bwys hanesyddol, a dathlu hanes a threftadaeth cyfoethog Cymru.
Mwy...

DYSGU

Gŵyl am Gymry’r gorffennol - i ddidanu ac ysbrydoli Cymry bach y dyfodol
DARGANFOD

Celtiaid; Rhufeiniaid; Tywysogion; Rhyfel a Heddwch; 60au; Protest a Therfysg; Hanes Celf; Diwydiant; Arwyr …pa bynnag thema fyddwch chi’n astudio yn ystod tymor yr Hydref, fydd gan yr ŵyl rhywbeth i chi!
DATHLU

Cofrestrwch eich diddordeb mewn unrhyw un o’r sesiynnau sydd ar gael, a byddwn mewn cysylltiad i drefnu amser a dyddiad.


