AMDANOM NI
PWY YW PWY
Amdanom ni
Bwriad yr ŵyl yw i greu brwdfrydedd, ymhlith plant yn bennaf, am hanes Cymru, gan estyn cyfleoedd unigryw i ddysgu mwy am gymeriadau a straeon difyr o’r gorffennol; darganfod safleoedd o bwys hanesyddol, a dathlu hanes a threftadaeth cyfoethog Cymru.
Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf ym mis Medi 2015 ar ôl i Eleri Twynog, cyn-aelod o Fwrdd yr ŵyl, weld sioe am Harri Tudur yn cael ei pherfformio, i gynulleidfa o blant oed cynradd,yng Nghastell Rhaglan. Roedd yn brofiad gwefreiddiol a blannodd hedyn syniad am ŵyl fyddai’n cael ei gynnal led led y wlad, i ddathlu hanes Cymru.
Mae’r ŵyl yn gwmni nid am elw, a dros gyfnod o 6 wythnos, ym mis Medi a Hydref bob blwyddyn, daw rhai o safleoedd treftadaeth Cymru yn fyw gyda perfformiadau; gweithdai; sgyrsiau ac arddangosfeydd. Yn ogystal â’r digwyddiadau byw, cynhelir nifer o sesiynnau ychwaengol ar lein gan ymestyn apêl a chyrhaeddiad yr ŵyl. Ers y cychwyn, gyda chefnogaeth nifer fawr o bartneriaid, mae’r ŵyl wedi cydlynnu rhai cannoedd o ddigwyddiadau gyda miloedd o blant wedi cymryd rhan.
Bwrdd yr Ŵyl
Carys Howell - Mae Carys wedi bod yn weithgar iawn ym maes treftadaeth a’r amgylchedd yng Nghymru. Fel rhan o’i swydd fel Rheolwr Materion Cyhoeddus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, roedd yn gyfrifol am addysg yn eiddo’r Ymddiriedolaeth yng Nghymru. Mae Carys yn Ymddiriedolwr Amguedda Cymru ac yn gyn aelod o bwyllgor Loteri’r Dreftadaeth. Mae hi’n aelod o fwrdd ymgynghorol RSPB Cymru a Bwrdd Glandwr Cymru.
Rheon Tomos - Yn wreiddiol o bentref Llanrug yng Ngwynedd mae gwaith Rheon fel cyfrifydd wedi golygu iddo dreulio dros ddeugain mlynedd yn Ne Cymru ble mae wedi magu dau o fechgyn. Bellach yn daid mae Rheon yn ymroddgar i roi pob cyfle posib i blant Cymru fod yn magu dealltwriaeth o bwysigrwydd eu gwlad a'i diwylliant. Mae hefyd yn ymddiriedolwr ac yn Is-Gadeirydd Urdd Gobaith Cymru, yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn Gyfarwyddwr National Theatre Wales (Productions) ltd., yn aelod o Bwyllgor Awdit a Risg Amgueddfa Cymru ac yn Aelod o Awdurdod Refeniw Cymru.
Phil Williams
Nia Downes - Mae Nia, sy’n wreiddiol o bentref Trefor wrth droed yr Eifl, yn Bennaeth ar Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail yn Rhondda Cynon Taf. Dechreuodd ei chariad at hanes yn yr ysgol gynradd ac mae’n angerddol am bwysigrwydd dysgu hanes Cymru i holl blant Cymru.
Partneriaid a Noddwyr
Dydd Llun 9fed Medi - Dydd Gwener 25ain Hydref