GWEITHGAREDDAU
BETH SYDD YMLAEN
PARATOI AR GYFER PARTI TUDURAIDD
Gweithdy Rhithiol
Camwch tu mewn i dÅ· Tuduraidd ac ymunwch â Robert Wynn a thrigolion Plas Mawr, Plasty Elizabethan gorau ym Mhrydain, wrth iddynt baratoi ar gyfer parti. Dysgwch sut roedden nhw'n cadw'n lân ac yn gwneud eu hunain yn hardd. Fe welwch hefyd sut y gwisgodd Dorothy a John Wynn yn eu dillad gorau. Yn olaf, ymunwch â'r aelwyd wrth iddynt ddawnsio a dysgwch sut i ddawnsio dawns Tuduraidd eich hunain!
Gallwch ehangu ar eich dysgu wedi’r sesiwn drwy ddefnyddio adnoddau Cadw, Dysgu | Cadw (gov.wales) sy'n cynnwys gwybodaeth am rai o'r eitemau a ddangosir, yn ogystal â chyfarwyddiadau ar gyfer gwneud ffon lafant a ryseitiau Tuduraidd blasus.
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 4 - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Cadw
AMSER GOLCHI
Gweithdy Rhithiol
Sut brofiad oedd gorfod golchi a sychu dillad cyn i ni gael peiriannau golchi a thrydan? Dewch i gwrdd â Marged i ddarganfod sut oedd hi’n golchi dillad ers talwm. Byddwch yn ei gwylio’n defnyddio’r twb golchi, y bwrdd sgwrio a’r mangl, yna’n cael cyfle i drin a thrafod efo’n hwylusydd, yn ogystal â gweld rhai o’r gwrthrychau’n agos. Tybed beth wnewch chi ddarganfod sydd wedi newid a beth sydd wedi aros yr un peth?
​
Addas ar gyfer Cyfnod Sylfaen
Ar gael 13 Medi - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Amgueddfa Cymru
Celtiaid
Gweithdy Rhithiol
Sut brofiad oedd byw yng Nghymru 2000 o flynyddoedd yn ôl? Ymunwch â'n Celt preswyl am daith rhithwir o amgylch Bryn Eryr, ein tai crwn o'r Oes Haearn. Darganfyddwch pam roedd y tân mor bwysig, pa fwyd oedd yn cael ei fwyta, a sut roedd dillad yn cael eu gwneud. Ond sut ydyn ni'n gwybod cymaint am fywyd yn y gorffennol? Gweithiwch gyda'n hwylusydd i ddarganfod sut i ddatgloi cyfrinachau'r gorffennol a chydweithio i ddatrys dirgelion bedd o'r Oes Haearn.
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 13 Medi - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Amgueddfa Cymru
GWERSYLL RHUFEINIG Rhithiol
Gweithdy Rhithiol
Cymerwch ran mewn cyfres o heriau i ddarganfod mwy am fywyd Milwr Rhufeinig. Dysgwch am y Rhufeiniaid a arferai fyw yng Nghaerllion a darganfod pa sgiliau oedd y Rhufeiniaid yn edrych amdanynt mewn milwr. Byddwch yn dysgu am arfwisg Rufeinig ac yn cael eich profi ar eich sgiliau gorymdeithio. Gallwch hefyd ofyn cwestiynau am fywyd milwr Rhufeinig a rhai o'r gwrthrychau diddorol a adawsant ar eu hôl.
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 13 Medi - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Amgueddfa Cymru
DARGANFOD CELF YN AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CYMRU
Gweithdy Rhithiol
Gan gyfuno ffilm a hwyluso byw, mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno dysgwyr i'r orielau celf gan ganolbwyntio ar gelf ac artistiaid Tirlun Cymru. Bydd disgyblion yn ystyried sut mae tirwedd Cymru wedi ysbrydoli artistiaid. Byddwch yn dadansoddi tirluniau Cymreig, yn cwestiynu tystiolaeth ac yn datblygu geirfa i ddisgrifio ac ymateb i waith celf. Bydd disgyblion hefyd yn cael cyfle i feddwl am dechneg celf, arddull, cyfansoddiad a'r defnydd o olau a lliw.
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 13 Medi - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Amgueddfa Cymru
DAW ETO HAUL AR FRYN... BYWYD AR Y FFRYNT CARTREF YN YSTOD YR AIL RYFEL BYD
Gweithdy Rhithiol
Sut oedd bywyd yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd? Mae'n 1943, gwyliwch Mary Jones wrth iddi ddanfon llythyr o Swyddfa Bost Blaenwaun at ei ffrind Minnie Owen, perchennog Siop Ddefnyddiau Emlyn Davies yn Dowlais. Drwy’r ffilm fer, cewch ddysgu am y bobl a'r lleoliadau, a darganfod mwy am fywyd pob dydd ar y Ffrynt Cartref. Archwiliwch wrthrychau sy’n gysylltiedig â'r Ail Ryfel Byd gyda'n hwylusydd, darganfod eu hanes a chael eich ysbrydoli i ymchwilio i gyfraniad eich ardal leol at ymdrech y rhyfel.
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 13 Medi - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Amgueddfa Cymru
CYFRIFIAD 1851: YMCHWILIAD OES FICTORIA
Gweithdy Rhithiol
Dilynwch ôl troed Mr Rosser o gwmpas ei filltir sgwâr ar ddiwrnod Cyfrifiad 1851 yn Abertawe a chwrdd â phobl o bob lliw a llun. Ymunwch a’n gweithdy byw i archwilio gwrthrychau sy'n gysylltiedig â'r cymeriadau i gael blas ar fywyd dynion a menywod tlawd a chyfoethog y 19eg ganrif.
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 13 Medi - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Amgueddfa Cymru
Glo: POBL, PWER A’R BLANED
Gweithdy Rhithiol
Archwiliwch hanes cyfoethog glofaol de Cymru drwy ymuno a glöwr sy’n dechrau ei ddiwrnod gwaith yn Big Pit yn 1978. Dysgwch am y cymunedau glofaol, nid dim ond heddiw, ond nol i’r Chwyldro Diwydiannol. Pa effaith gafodd glo ar yr amgylchedd? Sut wnaeth glo ysbrydoli awduron ac arlunwyr? Sut wnaeth y newidiadau mewn technoleg wella bywydau y glowyr a’u gwragedd?
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 13 Medi - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Amgueddfa Cymru
Y 1960au
Gweithdy Rhithiol
Sut brofiad oedd byw yng Nghymru yn y 1960au, a beth oedd yn digwydd yn y byd ar y pryd? Dewch i gwrdd â Huw yn Rhif 1, Fron Haul, ar ddiwedd 1969 wrth iddo edrych yn ôl dros ddegawd gyffrous a chythryblus. Bydd Huw yn trafod rhai o straeon newyddion mawr y chwedegau yng Nghymru a’r byd, ac yn sôn am ei brofiad fel person ifanc yn y cyfnod yma. Bydd cyfle wedyn i drin a thrafod gyda hwylusydd, fydd yn dangos pob math o wrthrychau diddorol er mwyn dysgu mwy am fywyd pob dydd yn y cyfnod. Cewch hefyd grwydro o gwmpas y tÅ· 1969 yn ddigidol gan ddefnyddio technoleg 360Scan.
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 13 Medi - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Amgueddfa Cymru
GWLEDDA A CHAETHWASIAETH YN OES Y RHUFEINIAID
Gweithdy Rhithiol
Mae Rhufeiniaid cyfoethog yn enwog am eu partion! Darganfyddwch y bwyd rhyfedd a bendigedig roedden nhw'n ei fwyta, fel ymennydd y paun a llygod wedi'u stwffio. Dysgwch am fywydau'r caethweision oedd yn cefnogi y bywyd godidog yma. Bydd cyfle i astudio’r casgliadau sydd ynghlwm â’r pwnc yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cyrmu.
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 13 Medi - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Amgueddfa Cymru
STREIC!
Gweithdy Rhithiol
Ymunwch â ni ym Methesda, 1901 i ddysgu mwy am hanes Streic Fawr y Penrhyn, y streic hiraf yn hanes Prydain. Cewch glywed stori Leusa, wrth i helyntion colli Pwtan y gath ddangos sut brofiad oedd byw yn y pentref yn ystod cyfnod y streic. Yna, bydd ein hwylusydd yn eich tywys o gwmpas tÅ· 1901 yn rhithiol gan ddefnyddio technoleg 360Scan, a bydd cyfle i holi cwestiynau. Cewch hefyd drin a thrafod gwrthrychau a dogfennau o’r cyfnod i ddysgu mwy am pam ddigwyddodd y streic a sut effaith y cafodd hyn ar y gymuned.
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 13 Medi - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Amgueddfa Cymru
OWAIN GLYNDÅ´R
Gweithdy Rhithiol
Gweithdy drama llawn hwyl fydd yn atgyfnerthu gwybodaeth y plant am hanes Owain Glyndŵr. Trwy gyfres o gemau rhyngweithiol, gyda'r pwyslais, ar ddatblygu iaith, llafaredd a chydweithio, dyma ffordd hwyliog i fynd ati i godi hyder y plant wrth ddysgu am un o arwyr ein cenedl. Yr actor Gwion Aled fydd yn arwain y gweithdy - mae o'n ffrind da i Owain Glyndŵr.
​
Addas ar gyfer blynyddoedd 4 – 7
Ar gael 16 Medi
Cefnogwyd gan: Cronfa Glyndŵr a Mewn Cymeriad
HEDD WYN
Gweithdy Rhithiol
Gweithdy bywiog yng nghwmni’r Prifardd Hedd Wyn. Mi fydd y gweithdy yn trin a thrafod barddoniaeth, rhyfel ac eisteddfodau mewn ffordd hwylus, yn ogystal â rhoi cyfle i’r plant ddatblygu hyder a dyfeisgarwch drwy gyd-weithio a pherfformio.
​
Addas at bob oed
Ar gael 21 Medi
Cefnogwyd gan: Mewn Cymeriad
ROALD DAHL – DYCHMYGWCH!
Gweithdy Rhithiol
Er bod Alf wrth ei fodd yn darllen unrhyw lyfr sydd ar gael, ei hoff awdur yw Roald Dahl. Drwy’r gweithdy llawn hwyl a sbri yma bydd Alf a’r disgyblion yn defnyddio eu pwerau creadigol i ddod â rhai o gymeriadau lliwgar o lyfrau Roald Dahl yn fyw yn y dosbarth. Gan gwblhau campau a chwarae gemau bydd cyfle i feithrin hyder a mwynhâd y disgyblion mewn llyfrau ac i’w hannog i archwilio’r byd drwy eu dychymyg.
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 13 Medi
Cefnogwyd gan: Mewn Cymeriad
10 STORI O HANES CYMRU Y DYLAI PAWB EU GWYBOD
Gweithdy Rhithiol
Dewch i ddysgu am bobl a digwyddiadau o hanes Cymru; straeon am ormes a rhyddid, anturiaethau a gwrthryfel, trasiedi a dathliad, mewn gweithdy rhyngweithiol arbennig iawn. Mae’r sesiwn yn seiledig ar lyfr newydd sbon sydd â’r nod o addysgu plant Cymru am hanes eu cenedl. Mae 10 Stori o Hanes Cymru y Dylai Pawb eu Gwybod , gan Ifan Morgan Jones a darluniau gan Telor Gwyn, yn gyfrol sy’n wledd i'r ymennydd, y galon a'r llygaid, ac yn llawn dop o fapiau, darluniau a phytiau bach o wybodaeth ddifyr. Sesiwn awr o hyd gyda’r actor, Sion Emyr.
Ar gael 13 - 17 Medi
Cefnogwyd gan: Cyhoeddiadau Rily
LLYFR LLUNIADU ELIZA PUGH
Gweithdy Rhithiol
Gweithdy 45 munud arlein yn bwrw golwg gyffredinol ar gasgliad Llyfrau lluniadu Llyfrgell Genedlaethol Cymru, boed yn frasluniau paratoadol, yn gofnodion personol neu’n gasgliad o syniadau. Bydd y Gwasanaeth Addysg yn canolbwyntio ar LlGC 53 sef llyfr lluniadu Eliza Pugh, merch fyddar 12 oed, gan ffocysu ar ei defnydd hi o gelf fel cyfrwng i gyfathrebu. Yng nghyd-destun ei hanabledd bydd y gweithdy yn cynnwys fideo sy’n dangos enghreifftiau o arwyddo, ynghyd ag isdeitlau dwyieithog – i efelychu lluniau Eliza – yn ogystal â throslais.
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 13 Medi - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
TRYWERYN
Gweithdy Rhithiol
Adrodd hanes boddi Cwm Tryweryn yn ystod y 1960au trwy gasgliadau amrywiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y stori yn cael ei chyflwyno o safbwynt pentrefwyr Capel Celyn yn ogystal â phlant o ardaloedd y slymiau yn ninas Lerpwl. Canolbwynt y gweithdy fydd deunydd o’r archif glyweledol, gan gynnwys ffilm o 1965 sydd wedi dogfennu’r digwyddiadau wrth iddynt gymryd lle, a chyfweliad deledu gyda Martha Roberts, Prifathrawes Ysgol Capel Celyn. Bydd y gweithdy 60 munud yn cael ei gyflwyno arlein via Teams, ac yn cynnwys defnydd o fapiau, ffotograffau, archifau a phapurau newydd o’r cyfnod.
​
Addasiadau o’r gweithdy ar gyfer pob oed, o CA2 i’r Chweched Dosbarth
Ar gael 13 Medi - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
KYFFIN
Gweithdy Rhithiol
Cyflwyniad i waith a bywyd yr artist o Sir Fôn, Kyffin Williams, a’i gariad at ucheldiroedd ac arfordiroedd Gogledd Cymru. Bydd y gweithdy 1 awr yn bwrw golwg ar ei yrfa a’i arddull nodadwy, gan gyfeirio at sut y deliodd gyda phroblemau iechyd yn ŵr ifanc. Bydd y sesiwn yn cynnwys deunydd clyweledol o’r arlunydd yn trafod ei gelf, gyda ffilmiau ohono yn paentio ar fynyddoedd Eryri yn ogystal ag yn ei weithdai yn Llanfair Pwllgwyngyll a Llundain. I gydfynd â’r gweithdy bydd cyflenwad o lyfrynnau lliw dwyieithog ar Kyffin Williams yn cael eu hanfon i bob ysgol sy’n cymryd rhan.
​
Addasiadau yn addas o CA2 hyd at Chweched Dosbarth
Ar gael 13 Medi - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
THE SHORT KNIFE, ELEN CALDECOTT
Gweithdy Rhithiol
Ymunwch ag Elen Caldecott, awdur The Short Knife ac enillydd gwobr Tir na n-Og mewn digwyddiad ar-lein arbennig. Camwch nôl mewn amser i’r flwyddyn 454OC. Mae’r Ymerodraeth Rufeinig wedi cilio o Brydain a'r wlad ynghanol anhrefn yr Oesoedd Tywyll. Cafodd Mai ei diogelu hyd yma gan ei thad a'i chwaer, ond mae rhyfelwyr Sacsonaidd yn gorfodi'r teulu i ffoi i'r bryniau lle mae herwyr yn cuddio. A fydd Mai yn medru goroesi mewn byd lle gall siarad ei mamiaith arwain at farwolaeth a lle gall ymddiried mewn ceraint fod yn beryglus?
​
Digwyddiad cyfrwng Saesneg sy’n addas ar gyfer disgyblion uwchradd (14+)
Ar gael 21 Medi
Cefnogwyd gan: Cyngor Llyfrau Cymru
SGWRS YR WYTHNOS… PEDR AP LLWYD YN HOLI YR ESGOB WILLIAM MORGAN
Sgyrsiau Hanes
Beth yw’r llyfr pwysicaf erioed i’w gyhoeddi yn y Gymraeg? A sut deimlad yw gwybod fod eich gwaith wedi cael effaith anferthol ar yr iaith Gymraeg? Ymunwch â Pedr ap Llwyd, Prif Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth iddo sgwrsio gyda’r Esgob William Morgan, y dyn a gyfieithiodd Y Beibl yn gyflawn i’r Gymraeg am y tro cyntaf, nôl yn 1588.
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 4 Hydref ymlaen
Cefnogwyd gan: Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Mewn Cymeriad
SGWRS GWENHWYFAR
Sgyrsiau Hanes
Ffilm llawn hwyl a chomedi fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C dros gyfnod y Nadolig eleni sy’n dilyn hynt a helynt y Brenin Arthur a Gwenhwyfar. Mae’r ffilm yn dechrau gyda Gwenhwyfar ar dân eisiau lle fel marchog ar Ford Gron y Brenin Arthur ond mae yna un broblem, dim ond dynion sy’n cael cystadlu am le. Mae Gwenhwyfar yn ferch benderfynol iawn, ac mae’n perswadio ei morwyn Morwenna i ymuno á hi mewn cystadleuaeth lle mae marchogion yn trio profi eu dewrder a’u doethineb i Arthur... Ymunwch â Gwenhwyfawr ag Arthur, mewn sgwrs sydd wedi’i recordio yn arbennig ar gyfer Gŵyl Hanes Cymru i Blant, am flas o’r hyn sydd i ddod y Nadolig hwn.
Ar gael 13 Medi - 22 Hydref
Cefnogwyd gan: Boom Plant
SGWRS YR WYTHNOS… ANNI LLŶN YN HOLI HEDD WYN
Sgyrsiau Hanes
Bardd yn holi bardd. Ymunwch efo Anni LlÅ·n, cyn-Fardd Plant Cymru wrth iddi hi sgwrsio efo’r Prifardd Hedd Wyn, a bu farw yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cyn iddo ddarganfod fod o wedi gwireddu ei freuddwyd o ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 13 Medi ymlaen
Cefnogwyd gan: Awdurdod Parc Treftadaeth Eryri a Mewn Cymeriad
SGWRS YR WYTHNOS… JENNIFER JONES YN HOLI SYR IFAN AB OWEN EDWARDS
Sgyrsiau Hanes
Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards ym 1922. Ers hynny mae dros 4 miliwn o blant a phobol ifanc wedi bod yn aelodau o’r Urdd, ac wedi elwa o brofiadau chwaraeon, celfyddydol, preswyl, dyngarol, gwirfoddol a phrentisiaethau, i gyd oll drwy gyfrwng y Gymraeg. A hithau bron yn gan mlynedd yn ddiweddarach, ymunwch â Jennifer Jones, Gohebydd newyddion BBC Wales a Chyflwynydd BBC Radio Cymru wrth iddi holi’r dyn tu ôl i un o sefydliadau ieuenctid mwyaf Ewrop. Bydd Syr Ifan ab Owen Edwards yn teithio ysgolion ledled Cymru mewn ‘sioe-un-person’ Mewn Cymeriad, sy’n cychwyn mis Ionawr 2022.
​
Addas ar gyfer CA2
Ar gael 11 Hydref 2021 ymlaen
Cefnogwyd gan: Urdd Gobaith Cymru a Mewn Cymeriad
Dydd Llun 9fed Medi - Dydd Gwener 25ain Hydref